
Rhoddwch i ni
Mae Honeypot yn dibynnu ar roddion i gadw ein gwasanaethau ar waith. Rydym yn cydnabod pob rhodd, boed yn fawr neu'n fach, drwy lythyr diolch gyda gwybodaeth am ein rhaglenni cyfredol a sut y byddwn yn defnyddio'ch arian. Fel hyn, gallwch weld drosoch eich hun y gwahaniaeth rydych chi'n ei wneud.
P'un a ydych chi'n gwneud rhodd untro neu reolaidd, yn gadael rhodd yn eich Ewyllys, neu'n ymuno â'n Clwb Noddwyr i roi ar lefel uwch, rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth garedig. Os yw'n well gennych siarad ag aelod o'n tîm codi arian ynglŷn â gwneud rhodd, cysylltwch â ni >

Os ydych chi'n siopwr ar-lein yn aml, gallwch chi gyfrannu at Honeypot heb iddo gostio ceiniog i chi!
Mae Easyfundraising yn partneru â dros 7,000 o frandiau a fydd yn rhoi rhan o'r hyn rydych chi'n ei wario i achos o'ch dewis. Ni fydd yn costio unrhyw beth ychwanegol i chi. Mae'r gost yn cael ei thalu gan y manwerthwr.
Mae'r rhan fwyaf o frandiau'n talu canran o'r hyn rydych chi'n ei wario gyda nhw fel rhodd, er enghraifft os ydych chi'n gwario £150 ar westy trwy booking.com, byddan nhw'n rhoi 3% sef £4.50. Mae rhai manwerthwyr yn talu swm sefydlog, er enghraifft os ydych chi'n prynu yswiriant car gyda confused.com trwy easyfundraising, byddan nhw'n rhoi swm sefydlog o £15 waeth beth fo cost y polisi.
Ewch i wefan easyfundraising i ddarganfod sut mae'n gweithio a dechrau codi rhoddion am ddim i ni!




